Fferm Wynt Mynydd Bedwellte

Bydd Fferm Wynt Mynydd Bedwellte EDP wedi'i lleoli i'r gorllewin o Dredegar ym Mlaenau Gwent. Bydd yn darparu ynni adnewyddadwy i Gymru – gan gefnogi diogelwch ynni, targedau newid yn yr hinsawdd a chymunedau lleol.

Ystadegau Allweddol

Byddai Fferm Wynt Mynydd Bedwellte yn darparu:

8

tyrbin gwynt hyd at 180 metr o uchder

Cynhyrchu hyd at
48 MW

o ynni

Sy’n ddigon i bweru tua
39,000

o gartrefi*

Cyfwerth yn fras â holl boblogaeth Blaenau Gwent

*Yn seiliedig ar ddefnydd cyfartalog aelwydydd yn 2022 sef 3,509 kWh y flwyddyn.

Cyflwr y Prosiect

Mae Fferm Wynt Mynydd Bedwellte yn fferm wynt sy’n cael ei chynnig ar gyfer ardal Blaenau Gwent ac mae’n cynnwys 8 tyrbin, gyda chapaasti i greu hyd at 48 MW o ynni. Mae’n cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC). Am y rheswm hwnnw, Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) fydd yn penderfynu ar y cynnig, ar ran Llywodraeth Cymru.

Cyflwynwyd ein cais cynllunio i PCAC ym mis Ebrill 2026. Cyn cyflwyno’r cais hwn, cynhaliwyd Ymgynghoriad cyn Gwneud Cais rhwng 30 Mehefin ac 11 Awst 2025. Ar ôl yr ymgynghoriad hwn, fe wnaethom fireinio ein cynlluniau mewn ymateb i’r adborth a gafwyd gan y gymuned leol a rhanddeiliaid eraill. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma am y prosiect ac amdanon ni.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Fferm Wynt Mynydd Bedwellte, cysylltwch â ni drwy lenwi’r ffurflen isod.